Primary Source

A Defence of the Faith of the Church of England

John Jewel 1595
John Jewel's Apology of the Church of England translated into Welsh, making Protestant theological defense accessible to Welsh-speaking audiences.

EEBO-TCP A04462 (TEI), original spelling, printed page numbers. EEBO 38160604; STC/Wing STC 14595; ESTC S5095

From the text

The opening of the work as printed, in the spelling of this edition.

I‘R GVVIR VRDD ASSOL A‘M CAR ANVVYL, VViliam Meredydd.

MI a welaf may peth arferedig yn yr hên oesoedd gynt ymhlith y Groegwyr a‘r Lladinwyr penna‘i dysc a‘u cymeriad, ydoedd gwneuthyr anrhegion o‘u gorchwilion dyscedig i‘r sawl oedd nessaf iddynt, a hoffaf genthynt: fal y gallent, drwy‘r cyfryw fodd, adel hyspysrwydd i‘r oesoedd a ddele ar eu hôl nhwy, am rinwedd a rhyglyddiad y gwyr hynny rhagor eraill. Nid anghymmwys i minne ddilyn yr vn llwybr wrth ossod allan cyfieythiad hyn o addysc, yr hwn yr wyf yn ei orchymyn i‘ch nodded. Oblegid, fegis nad oes neb byw fwy ei serch a‘i ewyllys ar wneuthyr mowr-les i‘ch gwlad na chwi‘n vnig; felly nid oes neb dayarol a haedde gael hyn gennyf, o‘ch blaen chwi‘ch hunan. Ag er mwyn nad amheuthyn gennych ddim a aller ei fyfyrio a‘i anrhegu i chwi yn Saesonaeg, neu‘n Lladin; (yn yr hyn ieithoedd y buoch er ioed gynefin a phob rhyw ddysc ag athrawiaeth) hefyd, gan i ni‘n dau ddwyn eyn byd allan o Gymry, a bôd mor anghynefin i mi scrifenny, ag yw i chwithe ddarllen dim yn yr iaith Gymraeg; hynny a wnaeth i mi, ydwyf wir gymro a gwir gâr o ‘r eyddoch, ddewis eych annerch a‘ch anrhegu yn Gymraeg, chwaethach nog mewn vn iaith arall. Pa gymro bynnag a gaffo wellaad dysc, neu gynyddiad gwybodaeth, oddi vvrth y llyfr hwn, diolched i Dduw yn gyntaf, ag i chwithe yn ail. Ef a ddengys hwn y llwybr i ‘r anghyfarwydd. A chyda hyn, pettid yn pregethu Efengyl Crist yng Hymry, fal y gwelsoch chwi a minne mewn gwledydd eraill, diau nad oes Genedlaeth yng Hred a alle ragori ar y Cymry mewn Crefydd a Duwioldeb; gan eu bod nhwy o athrylith a naturiaeth yn chwā nog i ddyscu pob Rhinwedd a Dayoni, ond cael ei ddangos a ‘i ddeongl iddynt. Ag yna, ni bydde gymaint câs, cenfigen, brâd, a bwriad drwg, yn eu mysc nhwy; lle nid oes yr owr ‘on, soweth, ddim cyffredinach▪ (medd pawb) nog ymdrechu, ymgyfreithio, ag ymgrafangu, drwy gam, trowsedd, a dygassedd, i ddwyn o ddiar bawb ei eiddo. Etto o ‘r diwedd, pe cae gwir Grefydd a gwasanaeth Dduw ddechre ‘i goledd a ‘i ossod allan yn hylwybr; a gweled vnwaith o ‘r cyffredin-bobl fod wynebeu a llownfryd pendefigion Cymry y ffordd honno, e fyddai bob Cymro barod i studio ag i wrando gair Duw yn ddyfal: a gobeithio, cyn nēmawr o ēnyd, y ceid gweled ym-mysc gwyr eyn gwlad ni lawer pwnc o ddysc, a dawn, a diwdrwydd, ar ni welwyd hyd yn hyn. Yr hwn beth caniattaed y Goruchaf Dduw iddynt, ag i chwithe lwyddiant a llawenydd wrth fodd

Annerch at yr howddgar ddarlleydd Cristnogawl.

DYMMA i ti ar les d'enaid, yn hyn o lyfr, sylwedd a chrynodeb y Ffydd wir Gatholic; ith hyfforddi a ‘th berffeithio yn llwybr gwasanaeth Duw, ag Iechydwriaeth dyn. Wrth ddarllen hwn y cei di wybod hanes, a dealld gwirionedd y Grefydd Gristnogawl, a chyda hynny ddanghossiad a dat-guddiad amhuredd crediniaeth Pâb Rhufain. Rhoed y Goruchaf Dduw iti ochel y drwg, a chalyn y da.

Mi a dybiais yn oref adel heibio ‘r hen eiriau cymreig yr rhai ydynt wedi [Nid arfer ieb dyscedic adgyfodi‘r fryw eirimethedig ‘wn iaith y byd.] tyfu allan o gydnabod a chyd-arfer y cyffredin, ag a ddewisais y geiriau howssaf, rhwyddaf, a sathredicca‘g allwn, i wneuthyr ffordd yr ymadrodd yn rhydd ag yn ddirwystrus i ‘r sawl ni wyddant ond y gymraeg arferedig. Eithr am ryw air angenrheidiol, [mium rei, vicissi • o.] yr hwn ni ellid dangos mo sylwedd ei rym, na synnwyr ei arwyddoccâd yn gymraeg, e ddarfu i mi yn-ôl arfer yr iaith Saesonaeg, Ffrangaeg, iaith Itali, iaith Spaen, a bagad o ieithoedd eraill, gymryd y cyfryw air o ‘r Groeg, neu o ‘r Lladin, yn y modd y mae ‘n gynefin gan-mwyaf ymhôb gwlad yng Hred er ys-talm o amser. Nid oes nēmawr o ‘r fath eiriau; ag o ‘r rhai rheitiaf di a gei hysbysrwydd a deonglad ar eu penneu eu hun, ar ôl diwedd hyn o Rag-ddoediad. Er maint fu fyngofal am myfyrdod yn hyn o beth, etto, mi a wna gyfri gael fy-marnu a beio arnaf gan ryw fath a ‘r goeg ddynion, y rhai a graffant ar ymbell air, ymma ag accw, ag a ddoedant yn y fan, wele, geiriau seisnigaidd a geiriau lladingaidd yw rhain, yn dwyno ‘r gymraec: f'atteb i ‘r rheini, ydyw ‘r ddihareb, Ni Wyr, ni Welodd, ni Ddysc. Druain gwerin, ychydig a wyddant, llai a welsant, ag nid gwiw sôn am ddyscu iddynt. My si a faddeua i ‘r rhai hyn eu hanwybodeth a ‘u ffolineb, ag adawaf i rai eraill chwerthin am eu penneu. Hawdd yw gwybod am ryw eiriau seisnig, nad oes, ag na bu er ioed eiriau cymreig iw cael; a hefyd may geiriau yn dyfod o ‘r Ffrangaec yw ‘r rhan fwyaf o ‘r rhai y mae‘n hwy yn tybied eu bod yn seisnigaidd. Ag am y geiriau lladingaidd, pwy nis gwyr nad yw ‘r iaith Gymraec yn ei herwydd, ddim amgen, onid hanner lladin drwyddi. Mi' allwn pe bae gennyf hamdden wneuthyr llyfr digon ei faint o‘r geirieu cymreic arferedig, a fenthycciwyd nid yn vnig o‘r Lladin a ‘r Ffrangaec, eithr o iaith Itali, ag iaith Spaen hefyd: heblaw ‘r dafod Roeg, ag Ebryw, a ‘r cyfryw. Rhyw rai di-ddysc di-synwyr, a ddoedant ddarfod i‘r Ieithoedd hynny fenthyccio gan y Gymraeg, ag nid yr iaith Gymraeg genthyn-nhwy.

Nid gwiw mor ymrysymmu a ‘r fath ynfydion cynhwynol, namyn eu gadel mewn anwiredd ag oferedd. Yn wir chwith iawn yw dal sylw ar lawer o wyr Eglwysig cymreig yn byw ar bris eneidieu dynion, a bagad eraill o Gymry yn cymeryd arnynt eulun dysc a goruchafiaeth, heb genthynt fri‘n y byd a ‘r iaith eu gwlad, eithr rhusso ‘i doedyd, a chwylyddio ‘i chlywed, rhag ofn iss-hau ar eu gradd a ‘u cymeriad; heb na medry darllen, na cheisio myfyrio dim a fae a ffrwyth yntho ‘n gymraeg, fegis mynny onynt i bobl dybied fod cymmaint eu rhagor-fraint nhwy, na wedde iddynt (f'eneidieu gwnnion) ostwng cyn issed ag ymyrryd ar ddim addysc cymreig. Telid Duw iddynt ddaed eu cyneddfeu. Amdanaf fy hun, mi allaf ddoedyd er dwyn onofy rhan fwyaf o ‘m byd hyd yn hyn o ‘m hoes ym-mhell oddi wrth wlad Gymry, etto wrth fod ymmysc Ieithoedd dieithr, a darfod i mi dreulio f'amser a‘m hastudrwydd mewn petheu eraill, ni bu fwy fyngofal ar fyfyrio, a dal i ‘m cof vn iaith, no ‘r Gymraec; gan ddamuno allu o honof wneuthyr rhyw lês i ‘r iaith a ‘r wlad lle ym ganwyd, yn-ôl athrawiaeth Plato ‘r Athrho mawr a phenadur llawer o philosophyddion dyfn-ddysc; [Plato. Epistol: 9. ad Archytam Tarentinum.] yr hwn a ddoedodd, Ortus nostri partem Patria, partem Parentes vendicant, partem Amici; sef yw hynny, y mae rhan o‘n genedigaeth ni yn ddyledus i ‘n Gwlad, a rhan yn ddyledus i ‘n Tadeu a ‘n Mammeu, a rhan arall yn ddyledus i ‘n hoff-ddynnion. Duw a wyr e fuasse howsach i mi o lawer, a hynodach i ‘m henw, fcrifenny‘r cyfryw beth mewn iaith arall chwaethach nog yn Gymraec; Ond mi a welaf bob peth, (onid antur) ymhôb iaith yng Hred, mor bybyr, ag mor berffaith, drwy ddysc a diwdrwydd gwyr da, nad rhaid iddynt (yn ei herwydd) wrth ddim ychwaneg. O ‘r tu arall, prin y gwela ‘i ddim (onid llyfr Gair Duw ‘n vnig) yn y Gymraec, a dim ffrwyth rhinwedd ynddo, i ddyscu ag i hyfforddi yr rhai annyscedig. Doctor Wiliam Morgan a gyfieythodd y Beibl drwyddi yn hwyr o amser; gwaith angenrheidiol, gorchestol, duwiol, dyscedig; am yr hwn ni ddichyn Cymry fyth dalu a diolch iddo gymaint ag a haeddodd ef. Cyn hynny hawdd yw gwybod may digon llesc oedd gyflwr yr iaith gymraeg, pryd na cheid clywed fynychaf, ond y naill ai cerdd faswedd, ai y nte rhyw fath arall ar wawd ofer heb na dysc, na dawn, na deunydd ynddi. O damweinie i ryw brydydd, ryw amser, geisio bras-naddu ychydig dduwioldeb ar gerdd, ef a balle mewn llawer pwnc eisieu dysc, a gwybodaeth; gan hynodi i ‘r bobl ryw hen chwedl, neu goel gwrach ar gwrr y barth; a hynny wedi ei dynny allan (y rhan fwyaf) o lyfr y Myneich celwyddog gynt, yr hwn a elwid Legenda aurea, ag a ellir ei alw Traethawd y Celwyddeu. Y mae ‘n fy meddiant i beth o ‘r fath gerdd gymraec iw dangos, ag y mae‘n dostur iawn gan fynghalon i feddwl ddarfod twyllo ag anrheithio llawer enaid dyn drwy‘r fath erchyll ynfydrwydd. E ddarfuessid cyfieuthu ‘r Testament newydd ynghylch yr wythfed neu ‘r nowfed flwyddyn o Deyrnas eyn harglwyddes frenhines Elizabeth, ond yr oedd cyfled llediaith a chymaint anghyfiaith yn yr ymadrodd brintiedig, na alle clust gwir Gymro ddioddef clywed mo ‘naw ‘n iawn. Yn-nhal y Testament hwnnw y gwelais i lythyr duwiol dyscedig at y Cymry, o waith y gwir barchedig Dâd Richard Escob Meniw iw twyso nhwy i adnewyddiad yr hên ffydd gatholic a goleuni Efengyl Crist: yr hwn lythyr a scrifennodd y doededig Escob mewn Cymraec groyw, hyfedr, ymadroddus, a di-ammeu wneuthyr onaw lês mawr i bob Cymro a ‘i darllēnodd. Heblaw hynny mi a welais ddosparth byr ar y rhan gyntaf i Ramadeg cymraec a brintiesid er ys-talm, [Gramadec Doct. Gr. Robert.] yr hwn sydd ddarn o waith dyscedig ynghelfyddyd gramadec, mor buraidd, mor lathraidd, ag mor odidawg ei ymadroddiad, na ellir damuno dim perffeithiach yn hynny o beth. Ni wn i weled etto, na chlywed sôn am ddim amgenach yn Gymraeg a nēmawr o addysc yntho.

Keep reading

Full text search, AI synthesis across 1,277 Reformed primary sources, and seamless reading — all in one place.

Create a Free Account to Read

Contents

  1. I‘R GVVIR VRDD ASSOL A‘M CAR ANVVYL, VViliam Meredydd.
  2. Annerch at yr howddgar ddarlleydd Cristnogawl.
  3. DEFFYNNIAD FFYDD Eglwys Loegr.p. 1

Other works by John Jewel

→
→
→
→

Related works

→
→
→
→
→

Browse the full Reformed theology catalog — 1,277 primary sources.